Safle datblygu strategol i'r dyfodol yng ngogledd
ddwyrain Cymru yw'r Porth Gogleddol sy'n cael ei yrru gan bartneriaeth
rhwng Awdurdod Datblygu (WDA) Corus, Stadau'r Weinyddiaeth, DARA,
Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Awyrlu Brenhinol
(RAF).
Mae safle'r Porth Gogleddol yn cynnwys cyfanswm o
235 hectar (ha) o dir sy'n gorwedd o boptu cefnffordd yr A550 yng
Nglannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. I'r dwyrain o'r A550 ceir 'Gwersyll
Dwyreiniol' RAF Sealand, safle datblygiedig o adeiladau milwrol,
a feddiannir ar hyn o bryd gan yr Awyrlu a DARA (Asiantaeth Atgyweirio
Awyrennau Amddiffyn), sy'n ymestyn dros 32 ha. I'r gorllewin o'r
A550 ceir y tirddaliad mwyaf o'r ddau sy'n 203 ha ac yn cynnwys
safle Gwersyll Deheuol RAF Sealand a safle 'Garden City' Corus.
Mae'r naill yn gymysgedd o adeiladau milwrol, awyrendai a chae gleiderau
gwair. Nid oes fawr ddim o safle 'Garden City' Corus wedi ei ddatblygu,
er bod nifer o ffyrdd yn mynd ar ei draws ac mae cymhlyg swyddfeydd
ym mhen gorllewinol pellaf y safle. Mae tir Corus yn weddill i ofynion
gweithrediadol eu gwaith Shotton cyfagos ac mae'r RAF ar fin gadael
RAF Sealand. O'r herwydd, mae'r llain fawr yma o dir ar gael i'w
ddatblygu/ail-ddatblygu yn y dyfodol.
Yn
ddiweddar, cafodd y safle ei gadarnhau'n gyfle strategol o fewn
Astudiaeth Isranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru - Dwyrain Swydd Caer,
astudiaeth a gomisiynwyd gan 9 awdurdod lleol/Cynulliad/Asiantaeth
sy'n weithredol o fewn yr Isranbarth. Canfu'r astudiaeth hon yr
angen i ddwyn ymlaen safle datblygu mawr gerllaw'r ffin rhwng Cymru
a Lloegr a oedd yn alluog i gynnal amrywiaeth o ddefnyddiau yn cynnwys
yn bennaf datblygiad ar gyfer cyflogaeth a busnes. Mae cynnig fel
hyn hefyd yn gyson â Chynllun Gofodol Cymru a Strategaeth
Eiddo'r WDA.
Mae nifer o asedau allweddol i'r
safle yn ogystal â'i leoliad strategol. Yn fwyaf arwyddocaol,
mae polisi cynllunio lleol yn cefnogi ei ddatblygiad pellach. Fodd
bynnag, mae cyfyngiadau penodol yn perthyn i rannau o'r safle sydd
wedi atal datblygiadau rhag digwydd yn ddiweddar. Mae'r rhain yn
cynnwys materion llosg sy'n gysylltiedig â llifogydd posib,
amodau tir, cludiant a mynediad.
Er mwyn goresgyn y rhain ac anawsterau
eraill, mae'r Cyngor Sir, y WDA, Corus, Stadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn
a DARA wedi penodi tîm ymgynghorol ar y cyd, dan arweiniad
AXIS (ymgynghorwyr cynllunio a dylunio), i ymgymryd ag astudiaeth
ddatblygu gynhwysfawr. Nod y gwaith yma fydd :
- canfod ac asesu'r cyfyngiadau ar y safle;
- cadarnhau galw'r farchnad a'r cyfleoeodd datblygu
strategol
- datblygu cynigion dylunio ar gyfer datblygiad defnydd
cymysg blaengar sy'n deilwng o leoliad strategol y safle, ond
sy'n parchu'r cyfyngiadau a nodwyd;
- darparu fframwaith i arwain datblygiad hirdymor
y safle.
Bydd yr astudiaeth yn archwilio'r potensial ar gyfer
defnyddiau cyflogaeth, preswyl, hamdden ac o bosib, manwerthu ar
raddfa fechan. Fodd bynnag, bydd unrhyw gynigion wedi eu seilio
ar y nod o greu datblygiad cynaliadwy a fydd
- yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol;
- yn gwarchod yr amgylchedd lleol;
- yn creu gwerth economaidd a chymdeithasol;
- yn hyrwyddo defnydd dulliau teithio amgen i gerbydau
preifat;
- wedi ei integreiddio i'r cymunedau cyfagos.
Y
Porth Gogleddol yw un o'r cyfleoedd datblygu mwyaf a mwyaf cyffrous
yng ngogledd ddwyrain Cymru/gogledd orllewin Lloegr. Mae ganddo'r
potensial i alluogi twf economaidd mewn modd sydd nid yn unig yn
gynaliadwy ond hefyd yn ddeniadol i'r farchnad. O'r herwydd, mae
ganddo gefnogaeth helaeth ystod eang o sefydliadau cyhoeddus a phreifat
sy'n amrywio o Lywodraeth Cynulliad Cymru i asiantaethau eiddo lleol.
Sefydlwyd y wefan hon yn wreiddiol
i gyhoeddi lansiad Astudiaeth y Porth Gogleddol. Yn ystod gweddill
2005, caiff ei ddiweddaru i amlinellu canlyniadau gwaith yr ymgynghorydd
a cheisio barn unrhyw fuddgyfranogydd ar y cynigion, wrth iddynt
ymddangos.
|